Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 30 Ionawr 2014 |
|
|||
Amser: |
Times Not Specified |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2014(01) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog) Anna Daniel, Clerc y Pwyllgor Busnes (Swyddog) Gareth Price (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu gwasanaethau i Lywyddion, y Comisiwn, pwyllgorau a phob Aelod Cynulliad, fel rhan o dîm integredig llawn o swyddogion arbenigol y Comisiwn. Ym mis Mehefin 2013, cytunodd y Comisiynwyr ar ddull o ddatblygu’r gwasanaeth hwn a oedd yn cynnwys:
- is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau i ddrafftwyr allanol arbenigol yn y tymor byr, ar yr un pryd â threfnu hyfforddiant ar gyfer y cyfreithwyr mewnol drwy’r drafftwyr allanol hynny;
- cyflwyno rhaglen datblygu proffesiynol ddwys ar gyfer cyfreithwyr mewnol;
- ymchwilio i’r galw am wasanaethau cyfreithiol masnachol ac unrhyw alw pellach, nad yw wedi’i ateb, am wasanaethau cyfreithiol yn y Cynulliad.
Roedd is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau yn gweithio’n dda, ac yn galluogi’r cyfreithwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn hyn o beth a fyddai’n gwella eu gallu yn y tîm dros amser.
Cytunodd y Comisiynwyr i barhau â’r dull gweithredu hwn, ond roeddent am weld opsiynau ar gyfer gwella capasiti drafftio deddfwriaethol mewnol yn gynt. Roedd cydnabyddiaeth y gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i gael rhagor o adnoddau. Byddai’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ystyried yr opsiynau o ran y camau pellach i’w cymryd, ac yn eu nodi wrth y Comisiwn maes o law.
Gwnaed cynnydd mewn meysydd eraill, gan gynnwys y gwaith sydd wedi’i ddechrau i asesu’r galw am ragor o gymorth cyfreithiol masnachol yn fewnol, a’r cynnydd o ran hyblygrwydd a welir yn y gwasanaeth drwyddo draw.
Byddai’r Gyfarwyddiaeth yn parhau i adolygu ei strategaeth, i sicrhau y gallai ymateb i unrhyw newidiadau arwyddocaol sy’n effeithio ar y Cynulliad, fel pwerau ariannol newydd, a’u cefnogi.
3 Cynnydd o ran Cyfieithu Peirianyddol
Un ymrwymiad yng Nghynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad oedd gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad a staff i gyflawni eu swyddogaethau’n effeithiol. Ym mis Tachwedd 2013, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu cyfleuster cyfieithu Microsoft o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg a fyddai ar gael i’r cyhoedd yn 2014.
Ers hynny, gwnaethpwyd profion ansawdd ac mae swm sylweddol o ddata wedi’i fwydo i’r system, gan gynnwys data a ddarparwyd gan nifer o sefydliadau dwyieithog. Mae canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad a’u staff, i gynorthwyo i hybu’r cyfleuster a chynyddu’r ddealltwriaeth o’r ffordd gywir o’i ddefnyddio. Caiff y cynnyrch ei lansio yn y Cynulliad ar 21 Chwefror, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith. O’r dyddiad hwnnw ymlaen bydd y cyfleuster ar gael i bob Aelod Cynulliad, staff, ac yn fyd-eang drwy Microsoft Office a chynnyrch eraill.
Llongyfarchwyd y swyddogion am y cynnydd cyflym a wnaed ar y prosiect hwn, a oedd yn dangos bod y Cynulliad ar flaen y gad yn y ffordd y mae’n defnyddio technoleg i gefnogi dwyieithrwydd.
4 Arolwg Omnibws
Er mwyn llywio gwaith Comisiwn y Cynulliad ar ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu allanol, cynhaliwyd pôl piniwn ym mis Tachwedd 2013 i gasglu data ynghylch gwybodaeth y cyhoedd am y Cynulliad ac i ba raddau y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â’r Cynulliad. Casglwyd y data fel rhan o’r arolwg Omnibws chwarterol a gynhaliwyd gan Beaufort Research.
Nid oedd y canlyniadau, a ddangosai mai cyfyngedig oedd dealltwriaeth y cyhoedd o’r Cynulliad yn gyffredinol, yn creu syndod, er bod yr ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc yn is na’r disgwyl o gofio’r ymdrechion sylweddol a fu yn y maes hwn drwy’r system addysg. Cytunodd y Comisiynwyr fod angen rhagor o waith i benderfynu ar y ffordd orau o gasglu’r data hwn yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried a oes ffordd fwy effeithiol o fesur gwybodaeth pobl ifanc am y Cynulliad. Byddai swyddogion yn edrych ar y dulliau y gellid eu defnyddio i gynyddu ymgysylltiad, ac yn ystyried tybed a fyddai’n well gweithio gyda sefydliad sy’n brofiadol yn y gwaith o ddatblygu brand neu gynnyrch o bosibl.
Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cynnal yr arolwg omnibws eto ym mis Mawrth. Cytunwyd y dylid ystyried a ydynt am gynnal gwaith ymchwil pellach y flwyddyn nesaf, a sut waith ymchwil y dylid ei wneud.
5 Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol
Roedd yr ail adroddiad, a oedd yn dangos cynnydd a wnaed yn ôl Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Comisiwn o ran gweithgarwch rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2013, yn nodi y gwnaed cynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys yr ystâd, TGCh, Ieithoedd Swyddogol a bwrw ymlaen â’r prosiect i Ymgysylltu â Phobl Ifanc.
Gellid gweld bod perfformiad wedi gwella dros y cyfnod o ran amseroldeb y gwasanaethau a ddarparwyd, a tharfiadau ar gyfarfodydd pwyllgor / y Cyfarfod Llawn. Gofynnodd y Comisiynwyr a oedd modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys dangosydd i nodi canran y papurau a gyhoeddwyd ar amser ar mod.gov.
Er y gellid gweld gwelliant o ran perfformiad hefyd yn ôl nifer yr ymwelwyr â’r Cynulliad a nifer y rhai sy’n rhyngweithio â ni yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd nifer y bobl a oedd yn defnyddio Senedd.tv wedi lleihau. Roedd darlledu a hybu adroddiadau pwyllgorau’r Cynulliad yn y cyfryngau print hefyd wedi lleihau. Cytunwyd y dylid ailystyried y dangosydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.
Nid oedd y perfformiad wedi cyrraedd y targed o ran lefelau lleihau ein defnydd o ynni. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen iddynt ystyried buddsoddi ymhellach o ran cynaliadwyedd, neu ail-edrych ar y targedau lleihau ein defnydd o ynni.
Cyhoeddir yr Adroddiad ar y Perfformiad Corfforaethol ar wefan y Comisiwn a’i ddosbarthu i aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.
6 Adroddiad y Prosiect Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol
Ym mis Rhagfyr 2013 gofynnodd y Comisiynwyr am adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y Prosiect Gwasanaethau TGCh ar gyfer y Dyfodol, gan gynnwys yr asesiad o’r parodrwydd i drosglwyddo i ddarparu gwasanaethau TGCh yn fewnol. Roedd y prosiect yn parhau i fynd rhagddo fel y dylai, a gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys recriwtio staff allweddol a throsglwyddo gwybodaeth gan Atos.
Canmolwyd y swyddogion am reoli’r prosiect cymhleth hwn yn ofalus ac am eu llwyddiannau hyd yma. Byddai’r Comisiynwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i lywio eu penderfyniad ynghylch amseriad y trosglwyddo.
7 Papur i'w nodi – Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio 7 Tachwedd 2013
Nododd yr Aelodau gofnodion Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2013 yn ffurfiol.
8 Unrhyw Fusnes Arall
Nid oedd materion eraill i’w trafod.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 13 Chwefror 2014.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Ionawr 2014